O Arglwydd pa'm y rhed fy mryd?

O Arglwydd, pa'm y rhed fy mryd,
Ar wag bleserau
    sy'n y byd?
  Tu hwnt i'r bedd, mewn gwledydd pell,
  Mae imi olud
      can-mil gwell.

Rho imi wel'd mai ti yw'm hedd,
A llwyr ddifyru
    ar dy wedd;
  A chym'ryd d'eiriau gwerthfawr, drud,
  Yn unig bleser yn y byd.

Gad imi gael dy Ysbryd pur
Yn gyfaill yn yr anial dir,
  Fel byddo dy holl gyfraith lym
  Yn felus ac yn hyfryd im'.

Pan weli fi yn crymu 'mhen,
At ryw wrthddrychau îs y nen;
  O dangos im' na thâl yr un,
  I'w garu byth ond ti dy hun.

Na fydded i'r llifeiriant mawr
I soddi'm henaid gwan i lawr;
  Ac na chaed cystudd byth fy nhrin,
  Heb dy gyfeillach di dy hun.
William Williams 1717-91

[Mesur: MH 8888]

gwelir:
  Gad i mi gael dy Ysbryd pur
  O Iesu mawr y Meddyg gwell
  Rho imi wel'd mai Ti yw'm hedd

O Lord, why does my mind run,
After the empty pleasures
    that are in the world?
  Beyond the grave, in distant lands,
  There is wealth for me
      a hundred thousand times better.

Grant me to see that thou art my peace,
And be completely comforted
    by thy countenance;
  And take thy precious, costly words,
  As the only pleasure in the world.

Let me get thy pure Spirit
As a friend in the desert land,
  That all thy strict law be
  Sweet and delightful to me.

When thou seest me bowing my head,
To some objects beneath the sky;
  O show me that not one of ever
  Pays to be loved but thee thyself.

May the great stream not
Sink my weak soul down;
  And may no tribulation ever treat me,
  Without thy own friendship.
tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~